Cysga Di Fy Mhlentyn TlwsCysga di fy mhlentyn tlws (x 3)
Cei gysgu tan y bore (x 2)
Cysga di fy mhlentyn tlws
Wedi cau a chloi y drws
Cysga di fy mhlentyn tlws
Cei gysgu tan y bore (x 2).
* * *
Hiraeth Yn Iwerddon'Mond un lleuad yn ôl, ni wyddwn mai'n fy ôl
Y down, wedi dianc mewn braw,
Wrth rwyfo o Lyn, pwy feddyliai mai'r un
Yw'r rhwyf hon sydd heno'n fy llaw;
Mae'r machlud drachefn yn goch ar fy nghefn
Uwchmynydd a'r traeth sy'n nesau
Dychwelyd a wnaf, ac i aros tro hwn,
Er gwaethaf mai'r nos sydd yn cau.
La RochelleYN LA ROCHELLE
Tonnau y môr sy'n nofio'n fy meddwl
Dan gysgod yr haul a'r wybren ddi-gwmwl
Daw seiniau cyfarwydd gan goeden y palmwydd
l'm hudo, un noson yn Ffrainc.
Yn La Rochelle, o! o! mae'r gwinoedd yn llifo
Y Deryn DuY deryn du a'i blufyn sidan
A'i big aur, a'i dafod arian,
A ei di drosta'i i Gydweli
I sbio hynt y ferch rwy'n caru.
Dacw'r ty^, a dacw'r sgubor,
A dacw glwyd yr ardd yn agor,
A dacw'r godden fawr yn tyfu
Yn Dewach Na DwrPam wyt ti'n wylo yn lifrai dy wlad
Fan hyn yn yr eglwys oddi wrth dy frigad?
Yma ym Mhorth Stanley carcharor yw'r lli
Ond dy lygaid sy'n dangos nad milwr wyt ti.
«Dau aeaf ar bymtheg, dyna'i gyd yw fy oed
A'r gaeaf hwn ydi'r gerwinaf erioed,
Ond mae'r eglwys yn hafan er nad oes ond pren
Rhyngof a rhu'r awyrennau uwchben».